Rhif y ddeiseb: P-06-1234

Teitl y ddeiseb:

Ni ddylid cyfyngu ffordd newydd Blaenau'r Cymoedd i 50 mya

Geiriad y ddeiseb:

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwario £336m i wella ffordd Blaenau’r Cymoedd, a oedd yn arfer bod wedi’i chyfyngu i 50mya.  Os caiff y ffordd newydd ei chyfyngu i 50mya, bydd y £336m wedi cael ei wastraffu’n llwyr.

Mae’r gwaith ar y ffordd wedi rhedeg drosodd o ran amser a chostau, gyda defnyddwyr rheolaidd yn wynebu blynyddoedd o oedi a therfyn o 40mya. Bydd terfyn cyflymder o 50mya yn chwalu’r addewid o gyflymu amser teithio.  Fel ffordd newydd, bydd y prosiect wedi’i gynllunio gyda gwelededd da a’r mesurau diogelwch diweddaraf.  Nid oes cyfiawnhad dros derfyn o 50mya.

 

 


1.        Cefndir

Mae gwefan Llywodraeth Cymru yn egluro bod ffordd yr A465 fel y mae wedi cael ei hadeiladu yn y 1960au fel lôn gerbydau sengl â thair lôn. Mae'n egluro bod astudiaeth ym 1990 wedi nodi'r angen i wella'r ffordd hon, gan fod lled y ffordd yn cyfyngu ar lif y traffig ac ar gyfleoedd diogel i basio.

Gwnaed gwaith datblygu manwl ar gynllun yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ym 1994. Mae'r ffordd rhwng y Fenni a Hirwaun yn cael ei huwchraddio i fod yn ffordd ddeuol, gyda'r llwybr wedi'i rannu'n chwe phrosiect, neu 'adran', ar wahân.

Mae'r ddeiseb hon yn cyfeirio at ran 2 o'r llwybr dan sylw – sef Gilwern i Frynmawr. Disgrifir y cynllun yn yr adroddiad Cam 3 gan WelTag, a gyhoeddwyd yn 2013, fel un sy’n ymestyn am 8.1km o fan i'r gorllewin o Bont Intermediate Road i fan sydd union i'r gorllewin o Gyffordd Glanbaiden. Byddai'r ffordd newydd yn ffordd ddeuol â dwy lôn i'r ddau gyfeiriad.

Mae gwefan Llywodraeth Cymru yn nodi ystod o nodau a buddion disgwyliedig, gan gynnwys lleihau tagfeydd a chiwio yn ystod oriau brig, a gwella cysylltedd ac amseroedd teithio.

Mae’r cynlluniau hyn yn cynnwys mapiau o adran 2.

2.     Camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru

Gwybodaeth hanesyddol

Cyhoeddwyd gwybodaeth o 2013 a oedd yn nodi’r ffaith y byddai’r rhan hon o ffordd Blaenau’r Cymoedd yn destun terfyn cyflymder o 50mya.

Mae hyn yn cynnwys yr adroddiad Cam 3 gan WelTag, sy'n datgan, yn sgil natur gyfyngedig y ceunant, fod lleiniau caled a'r lleiniau ymyl ffordd yn fwy cul nag y byddent fel arfer ar gyfer ffordd o'r math hwn a bod troeon mwy tynn yn aliniad y ffordd:

Mae'r cynllun hwn ynghyd â'r angen i leihau effaith y ffordd ar ansawdd aer y safleoedd ecolegol cyfagos yn golygu y byddai'r cynllun i gyd yn dod o dan derfyn cyflymder gorfodol o 50mya, a fyddai’n cael ei fonitro a’i orfodi.

Yn yr un ddogfen, mae asesiad y peirianwyr yn disgrifio sut y dyluniwyd y cynllun gan ystyried yr holl bolisïau, cynlluniau a safonau cynllunio cenedlaethol a lleol:

Cyflymder Dylunio'r cynllun yw 85kmya (50 mya), fodd bynnag, byddai'n rhaid gwyro oddi wrth y Safonau o ran geometreg priffyrdd ar adegau er mwyn lleihau'r effaith ar yr amgylchedd.

Yn ogystal, mae adroddiad yr arolygydd cynllunio ar y cynllun (a gyhoeddwyd yn 2014) hefyd yn nodi’r pwyntiau a ganlyn, yn yr adran sydd â’r pennawd ‘Yr Achos ar gyfer Llywodraeth Cymru – Ffordd Arfaethedig’:

Byddai gwyriadau oddi wrth safonau peirianegol arferol, a’r prif liniariad fyddai gosod cyfyngiad cyflymder o 50mya ar y ffordd.

Cynnydd presennol

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi gwybodaeth am gynnydd presennol y cynllun ac am amserlen y cynllun ar ei gwefan. Yn ogystal, ceir y diweddariad hwn o fis Chwefror 2021, a gafodd ei gyhoeddi o dan y weinyddiaeth flaenorol. 

Er mwyn rhoi’r terfyn cyflymder 50mya ar waith, cafodd Offeryn Statudol ei wneud ar 28 Hydref. Yn ei Datganiad o’r Rhesymau ar gyfer y Gorchymyn, mae Llywodraeth Cymru yn datgan bod y terfyn yn cael ei gyflwyno:

…er budd diogelwch ar y ffordd ac mae’n diwallu dyluniad peirianyddol y ffordd sydd wedi ei gwella.  Bwriad aliniad newydd y ffordd yw lleihau effaith y ffordd ar safleoedd sydd wedi eu dynodi’n amgylcheddol sensitif, ac mae’n cydymffurfio â deddfwriaeth amgylcheddol, yn benodol Cyfarwyddeb Cynefinoedd 92/43/EC.

Mae llythyr a anfonwyd gan y Dirprwy Weinidog at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ym mis Ionawr yn nodi bod y Gorchymyn drafft wedi cael ei gyhoeddi ar 10 Mehefin 2021.  Rhoddwyd ystyriaeth i’r 31 o wrthwynebiadau a ddaeth i law, ond nid oeddent yn cynnwys unrhyw wybodaeth newydd a fyddai'n caniatáu codi'r terfyn cyflymder yn ddiogel o'r terfyn cyflymder 50mya.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.